Welsh Government
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio.
Mae Llywodraeth Cymru'n cynnwys:
· Y Prif Weinidog
· Gweinidogioan Cymru
· Y Cwnsler Cyffredinol
· Y Dirprwy Weinidogion.
Cânt eu cefnogi gan Weision Sifil sy'n gweithio yn y meysydd datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.
Ein nod yw bod yn agored ac ymateb i anghenion dinasyddion a chymunedau, a'n llywodraeth yw un o'r prin rai yn y byd sy'n cyhoeddi cofnodion a phapurau'r Cabinet. Mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, addysg a'r amgylchedd.